Ail Lyfr y Brenhinoedd 8:32
Yna clyw di yn y nefoedd, gwna hefyd, a barna dy weision, gan ddamnio’r drygionus i ddwyn ei ffordd ef ar ei ben; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 8
Cross References
Exodus 34:7Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl âg anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.
Deuteronomy 25:1Rhaid yw dilëu coffadwriaeth Amalec. Pan fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn i’w barnu; yna cyfiawnhânt y cyfiawn, a chondemniant y beius.
1 Kings 2:32A’r ARGLWYDD a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; o herwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a’u lladdodd hwynt â’r cleddyf, a Dafydd fy nhad heb wybod; sef Abner mab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda.
Esther 9:25A phan ddaeth Esther o flaen y brenin, efe a archodd trwy lythyrau, ddychwelyd ei ddrwg fwriad ef, yr hwn a fwriadodd efe yn erbyn yr Iddewon, ar ei ben ei hun; a’i grogi ef a’i feibion ar y pren. 9:
Proverbs 1:31Am hynny hwy a gant fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain.
Isaiah 3:10Dywedwch mai da fydd i’r cyfiawn: canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhânt.