Ail Lyfr y Brenhinoedd 8:34
Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i’r tir a roddaist i’w tadau hwynt. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 8
Cross References
Genesis 13:15Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth.
Deuteronomy 30:1Gosod angau ac einioes o flaen y bobl. A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fendith a’r felldith, y rhai a roddais o’th flaen, ac adgofio o honot hwynt ym mysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di attynt;
Joshua 21:43¶ A’r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a’i meddiannasant hi, ac a wladychasant ynddi.
Ezra 1:1Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, i gyflawni gair yr ARGLWYDD o enau Jeremeia, y gyffrôdd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny hefyd mewn ysgrifen, gan ddywedyd,
Jeremiah 31:27Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda a had dyn ac a had anifail. º