Ail Lyfr y Brenhinoedd 8:46
Os pechant i’th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a digio ohonot wrthynt, a’u rhoddi hwynt o flaen eu gelynion, fel y caethgludont hwynt yn gaethion i wlad y gelyn, ymhell neu yn agos, º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
45Yna gwrando yn y nefoedd ar eu gweddi hwynt, ac ar eu deisyfiad, a gwna farniddynt. º
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 8
Cross References
Leviticus 26:33Chwithau a wasgaraf ym mysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ol; a’ch tir fydd ddiffaethwch, a’ch dinasoedd yn anghyfannedd.
Deuteronomy 4:26Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddyw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.
Deuteronomy 28:64A’r Arglwydd a’th wasgar di ym mhlith yr holl bobloedd, o’r naill gwrr i’r ddaear hyd y cwrr arall i’r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuost ti na’th dadau; sef pren a maen.
2 Kings 17:6Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. º
2 Kings 17:23Nes i’r ARGLWYDD fwrw Israel allan ti’i olwg, fel y llefarasai trwy law ei holl weision y proffwydi: ac Israel a gaethgludwyd allan o’i wlad ei hun i Asyria, hyd y dydd hwn. º
2 Chronicles 6:36Os pechant i’th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a diclloni ohonot i’w herbyn hwynt, a’u rhoddi o flaen eu gelynion, ac iddynt eu caethgludo yn gaethion i wlad bell neu agos;