Ail Lyfr y Brenhinoedd 8:65
A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw wyl, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft, gerbron yr ARGLWYDD ein Duw, saith o ddyddiau a saith o ddyddiau, sef pedwar diwrnod ar ddeg. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 8
Cross References
Exodus 23:31A gosodaf dy derfyn o’r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o’r diffaethwch hyd yr afon; canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a’u gyrri hwynt allan o’th flaen.
Numbers 34:5A’r terfyn a amgylchyna o Asmon i afon yr Aipht; a’i fynediad ef allan a fydd tu a’r gorllewin.
Joshua 13:3O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aipht, hyd derfyn Ecron tu a’r gogledd, yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid: pùm tywysog y Philistiaid: y Gazathiaid, a’r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid:
Joshua 15:1Y Jebusiaid heb eu gorchfygu. A rhandir llwyth meibion Judah, yn ol eu teuluoedd, ydoedd tu a therfyn Edom: anialwch Sin, tu a’r dehau, oedd eithaf y terfyn dehau.
Judges 3:3Pum tywysog y Philistiaid, a’r holl Ganaaneaid, a’r Sidoniaid, a’r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus, o fynydd Baal-hermon, hyd y ffordd y deuir i Hamath.
1 Kings 4:24Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i’r afon oll, o Tiffsa byd Assa, ar yr holl frenhinoedd o’r tu yma i’r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch.