Ail Lyfr y Brenhinoedd 8:9
Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb, lle y cyfamododd yr ARGLWYDD a meibion Israel, pan oeddynt yn dyfod o wlad yr Aifft. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10A phan ddaeth yr offeiriaid allan o’r cysegr, y cwmwl a lanwodd dŷ yr ARGLWYDD, º
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 8
Cross References
Exodus 14:24Ac ar y wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Aiphtiaid trwy y golofn dân a’r cwmmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Aiphtiaid.
Exodus 16:33A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer grochan, a dod ynddo lonaid omer o’r manna, a gosod ef ger bron yr Arglwydd y’nghadw i’ch cenhedlaethau.
Exodus 24:16A gogoniant yr Arglwydd a arhôdd ar fynydd Sinai, a’r cwmmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmmwl.
Exodus 25:21A dod y drugareddfa i fynu ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti.
Exodus 40:20¶ Cymmerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fynu ar yr arch.
Leviticus 16:2A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i’r cyssegr o fewn y wahanlen, ger bron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: o herwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmmwl.