The Bible Software
Ail Lyfr y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Brenhinoedd 9

1A phan orffennodd Solomon adeil-adu tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y torenin, a chwbl o ddymuniad Solotnon yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthuf; º

2Yr ARGLWYDD a ymddangosodd i Solomon yr ail waith, fel yr yinddangosasai iddo yn Gibeon. º

3A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di, yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol. º

4Ac os rhodi di ger fy mron i, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti, ac os cedwi fy neddfau a’m barnedigaethau: º

5Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd, fel y lleferais wrth Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni phalla i ti ŵr ar orseddfainc Israel. º

6Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a’ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb gadw fy ngorchmynion a’m deddfau, y rhai a roddais o’ch blaen chwi, eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy: º

7Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy, a’r tŷ hwn a gysegrais i’m henw, a fwriaf allan o’m golwg; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd: º

8A’r tŷ uchel hwn, pawb a gyniweii-o heibio iddo, a synna wrtho, ac a chwib’" ana; dywedant hefyd, Paham y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i’r wlad hon, ac i’r,ty yma? º

9A hwy a ddywedant. Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD eu Duw, yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft, ac ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a’u gwasanaethu hwynt, am hynny y dug yr ARGLWYDD arnynt hwy yr holl ddrwg hyn. º

10Ac ymhen yr ugain mlynedd, wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ, sef tf yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, º

11(Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Solomon goed cedr, a choed ffynidwydd, ac aur, yn ôl ei holl ewyllys ef,) y brenin Solomon a roddes i Hiram ugain dinas yng ngwlad Galilea.

12A Hiram a ddaeth o Tyrus i edrych y dinasoedd a roddasai Solomon iddo ef; ac nid oeddynt wrth ei fodd ef. º

13Ac efe a ddywedodd. Pa ddinasoedd yw y rhai hyn a roddaist i mi, fy mrawd? Ac efe a’u galwodd hwynt Gwlad Cabul, hyd y dydd hwn. º

14A Hiram a anfonodd i’r brenin chwech ugain talent o aur. º

15y A dyma swm y dreth a gododd y brenin Solomon, i adeiladu tŷ yr AR- GLWYDD, a’i dy ei hun, a Milo, a mur Jerwsalem, Hasor, a Megido, a Geser. º

16Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny, ac a enillasai Geser, ac a’i llosgasai hi & than, ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas, ac a’i rhoddasai hi yn anrheg i’w ferch, gwraig Solomon. º

17A Solomon a adeiladodd Geser, a ‘Bethhoron isaf, º

18A Baalath, a Thadmor yn yr anialwch, o fewn y wlad, º

19A holl ddinasoedd y trysorau y rhai oedd gan Solomon, a dinasoedd y cer-bydau, a dinasoedd y gwŷr meirch, a’r hyn oedd ewyllys gan Solomon ei adeil¬adu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei lywodraeth. º

20Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid, ‘a’r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o feib- fon Israel; º

21Sef eu meibion hwy, y rhai a adawsid ar eu hoi hwynt yn y wlad, y rhai ni allodd meibion Israel eu lladd, ar y rhai hynny y cyfododd Solomon dreth wrogaeth hyd y dydd hwn. º

22Ond o feibion Israel ni wnaeth Solomon un yn gaethwas: rhyfelwyr iddo ef oeddynt, a gweision iddo, a thywysogion iddo, a chapteiniaid iddo, a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch. º

23Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Solomon, pum cant a deg a deugain, oedd yn llywodraethu y bobl oedd yn gweithio yn y gwaith. º

24A merch Pharo a ddaeth i fyny o ddinas Dafydd i’w thŷ ei hun, yr hwn a adeiladasai Solomon iddi hi; yna efe a adeiladodd Milo. º

25A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymai Solomon boethoffrymau ac offrymau hedd ar yr allor a adeiladasai efe i’r ARGLWYDD: ac efe a arogl-darthodd ar yr allor oedd gerbron yr ARGLWYDD. Felly efe a orffennodd y tŷ. º

26y A’r brenin Solomon a wnaeth longau yn Esion-gaber, yr hon sydd wrth Eloth, ar fin y môr coch, yng ngwlad;Edom. º

27A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau, y rhai oedd longwyr yn medru oddi wrth y môr, gyda gweision Solomon. º

28A hwy a ddaethant i Offir, ac a ddygasant oddi yno bedwar cant ac ugain o dalentau aur, ac a’u dygasant at y brenin Solomon.

← Ail Lyfr y Brenhinoedd 8Read In The App, Free →Ail Lyfr y Brenhinoedd 10 →

Study Ail Lyfr y Brenhinoedd 9

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122