Ail Lyfr y Brenhinoedd 9:3
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di, yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Yr ARGLWYDD a ymddangosodd i Solomon yr ail waith, fel yr yinddangosasai iddo yn Gibeon. º
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 9
Cross References
Exodus 29:44A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a’r allor; ac Aaron a’i feibion a sancteiddiaf, i offeiriadu i mi.
Deuteronomy 11:12Tir yw, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu: llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.
Deuteronomy 12:11Yna y bydd lle wedi i’r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo, i beri i’w enw aros ynddo; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi; sef eich poeth-offrymmau, a’ch aberthau, eich degymmau, a dyrchafael-offrwm eich llaw, a’ch holl ddewis addunedau, y rhai a addunedoch i’r Arglwydd.
Deuteronomy 16:11A llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a’r dïeithr, a’r amddifad, a’r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo.
1 Kings 8:29Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma nos a dydd, tua’r lle y dywedaist amdano, Fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y lle hwn. º
2 Chronicles 6:40Yn awr, O fy NUW, bydded, atolwg, dy lygaid yn agored, a’th glustiau yn ymwrando à’r weddi a wneir tua’r lle yma.