1 Peter 1:18
Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y’ch prynwyd oddi with eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
19Eithr a gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd:
Cross References
Psalms 39:6Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.
Jeremiah 9:14Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt:
Jeremiah 44:17Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau, gan arogl-darthu i fren hines y nefoedd, a thywalll iddi hi ddiodydd-offrwm, megis y gwnaethom, nyni a’n tadau, ein brenhin. oedd a’n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem.: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg. º
Amos 2:4Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr ARGLWYDD, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl.
Matthew 15:2Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara.