1 Peter 4:3
Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o’r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diota, a ffiaidd eilun-addoliad:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, dros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd.
Cross References
2 Samuel 13:28Ac Absalom a orchmynnodd i’w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion.
2 Chronicles 15:8A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd, efe a gryfhaodd, ac a fwriodd ymaith y ffiaidd eilunod o holl wlad Jwda, a Benjamin, ac o’r holl ddinasoedd a enillasai efe o fynydd Effraim, ac a adnewyddodd allor yr ARGLWYDD, yr hon oedd o flaen porth yr ARGLWYDD.
Isaiah 5:11Gwae y rhai a gyfodant yn fore i ddilyn diod gadarn, a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni enynno y gwin hwynt.
Isaiah 65:4Y rhai a arhoent ymysg y beddau, ac a letyent yn y mynwentau; y rhai a fwytaent gig moch, ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri; º
Ezekiel 44:6A dywed wrth y gwrthryfelgar, sef ty Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Digon i chwi hyn, ty Israel, o'ch holl ffieidd-dra;
Mark 7:22Lladradau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd: