Ail Lyfr Samuel 1:11
Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r ARGLWYDD holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD, a chan wylo hi a wylodd.
12A bu, fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr ARGLWYDD, i Eli ddal sylw ar ei genau hi.
Cross References
Genesis 8:1yr hwn y mae Duw yn ei dderbyn, ac yn addaw na felldithiai y ddaear mwyach. A Duw a gofiodd Noah, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gyd ag ef yn yr arch: a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant.
Genesis 29:32A Leah a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: o herwydd hi a ddywedodd, Dïau edrych o’r Arglwydd ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngwr a’m hoffa i.
Exodus 4:31A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymmasant, ac a addolasant.
Numbers 6:5Holl ddyddiau adduned ei Nazareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni y dyddiau yr ymneillduodd efe i’r Arglwydd, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu.
Numbers 6:11Ac offrymmed yr offeiriad un yn bech-aberth, ac un yn boeth-offrwm, a gwnaed gymmod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw.
Numbers 30:3Ac os adduneda benyw adduned i’r Arglwydd, a’i rhwymo ei hun â rhwymedigaeth yn nhŷ ei thad, yn ei hieuengctid;