Ail Lyfr Samuel 1:26
A hi a ddywedodd, O fy arglwydd, fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di, yn gweddïo ar yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
25A hwy a laddasant fustach, ac a ddygasant y bachgen at Eli.
27Am y bachgen hwn y gweddïais; a’r ARGLWYDD a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo:
Cross References
1 Samuel 17:55If A phan welodd Saul Dafydd yn myned i gyfarfod a’r Philistiad, efe a ddywedodd wrth Abner, tywysog y nlwriaeth, Mab i bwy yw y llanc hwn, Abner? Ac Abner a ddywedodd, Fel y mae yn fyw dy enaid, O frenin, nis gwn i. º
1 Samuel 25:26Ac yn awr, fy arglwydd, fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, ac mai byw dy enaid di, gan i’r ARGLWYDD dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’th law dy hun; yn awr bydded dy elynion di, a’r sawl a geisiant niwed i’m harglwydd, megis Nabal. º
2 Samuel 14:19A’r brenin a ddywedodd, A ydyw llaw Joab gyda thi yn hyn oll? A’r wraig a atebodd ac a ddywedodd, Fel mai byw dy enaid di, fy arglwydd frenin, nid gwiw troi ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin: canys dy was Joab a orchmynnodd i mi, ac a osododd yr holl eiriau hyn yng ngenau dy lawforwyn:
2 Kings 2:4Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Jericho. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho.
2 Kings 4:30A mam y bachgen a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid di, nid ymadawaf fi â thi. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl hi.