Ail Lyfr Samuel 13:7
A rhai o’r Hebreaid a aethant dros yr Iorddonen, i dir Gad a Gilead: a Saul oedd eto yn Gilgal, a’r holl bobl a aethant ar ei ôl ef dan grynu. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr Samuel 13
Cross References
Leviticus 26:36A’r hyn a weddillir o honoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid.
Numbers 32:33A rhoddodd Moses iddynt, sef i feibion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasseh mab Joseph, frenhiniaeth Sehon brenhin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenhin Basan, y wlad a’i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.
Deuteronomy 20:8Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant, Pa wr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i’w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau.
Joshua 13:8Gyd â’r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tu a’r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt;
Joshua 13:24¶ Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd;
1 Samuel 17:11Pan glybu Saul a holl Israel y geiriau hynny gan y Philistiad, yna y digalonasant, ac yr ofnasant yn ddirfawr. º