Ail Lyfr Samuel 14:6
A dywedodd Jonathan with y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef. Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr ARGLWYDD gyda ni: canys nid oes rwystr i’r ARGLWYDD waredu trwy lawer neu trwy ychydig. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr Samuel 14
Cross References
Numbers 10:32A phan ddelych gyd â ni, a dyfod o’r daioni hwnnw, yr hwn a wna yr Arglwydd i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.
Deuteronomy 32:30Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o’u Craig hwynt, a chau o’r Arglwydd arnynt?
Judges 7:4A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gedeon, Eto y mae gormod o bobl. Dwg hwynt i waered at y dyfroedd, a mi a’u profaf hwynt yno i ti: ac am yr hwn y dywedwyf wrthyt, Hwn a â gyda, thi, eled hwnnw gyda thi; ac am bwy bynnag y dywedwyf wrthyt, Hwn nid â gyda thi, nac eled hwnnw gyda thi.
Judges 15:18Ac efe a sychedodd yn dost; ac a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Tydi a roddaist yn llaw dy was yr ymwared mawr yma: ac yn awr a fyddaf fi farw gan syched, a syrthio yn llaw y rhai dienwaededig? º
1 Samuel 17:36Felly dy was di a laddodd y Hew, a’r arth: a’r Philistiad dienwaededig hwn fydd megis un ohonynt, gan iddo amherchi byddinoedd y Duw byw. º
2 Samuel 16:12Efallai yr edrych yr Arglwydd ar fy nghystudd i, ac y dyry yr Arglwydd i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn.