Ail Lyfr Samuel 15:20
A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Yn wir mi a wrandewais ar lais yr ARGLWYDD, ac a rodiais yn y ffordd y’m hanfonodd yr ARGLWYDD iddi, a dygais Agag brenin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr Samuel 15
Cross References
1 Samuel 15:3DOS yn awr, a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd hwynt, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ych ac yn oen, yn gamel ac yn asyn. º
1 Samuel 15:13A Samuel a ddaeth at Saul. A Saul ddywedodd wrtho ef, Bendigedig fyddych di gan yr ARGLWYDD: mi a gyflewnais air yr ARGLWYDD. º
Job 34:5Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf; a DUW a ddug ymaith fy marn.
Job 40:8A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i’th gyfiawnhau dy hun?
Luke 10:29Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog?
Romans 10:3Canys hwynt-hwy, heb wybod cyf¬iawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.