Ail Lyfr Samuel 15:3
DOS yn awr, a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd hwynt, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ych ac yn oen, yn gamel ac yn asyn. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr Samuel 15
Cross References
Exodus 20:5Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y dryd edd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;
Leviticus 27:29Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail dïofrydog, yr hwn a ddïofryder gan ddyn: lladder yn farw.
Numbers 31:17Am hynny lleddwch yn awr bob gwrryw o blentyn; a lleddwch bob benyw a fu iddi a wnaeth â gwr, trwy orwedd gyd âg ef.
Deuteronomy 20:16Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw:
Joshua 10:39Ac efe a’i hennillodd hi, ei brenhin, a’i holl ddinasoedd; a hwy a’u tarawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un y’ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i’w brenhin; megis y gwnelsai efe i Libnah, ac i’w brenhin.
1 Samuel 22:19Efe a drawodd hefyd Nob, dinas yr oft’eiriaid, â min y cleddyf, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, ac yn ych, ac yn asyn, ac yn oen, â min y cleddyf.:: º