Ail Lyfr Samuel 17:26
A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyi, gan ddy¬wedyd, Beth a wneir i’r gŵr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel? canys pwy yw’r Philistiad dienwaededig hwn, pan waradwyddai efe fyddinoedd y Duw byw? º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
27A’r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd. Felly y gwneir i’r gŵr a’i lladdo ef. º
Read all of Ail Lyfr Samuel 17
Cross References
Joshua 3:10Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyrr efe allan y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Hefiaid, a’r Phereziaid, a’r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a’r Jebusiaid, o’ch blaen chwi.
1 Samuel 11:2A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt, Dan yr amod hyn y cyfamodaf a chwi; i mi gael tynnu pob llygad deau i chwi, fel y gosodwyf y gwaradwydd hwn ar holl Israel. º
1 Samuel 17:10A’r Philistiad a ddywedodd, Myfi a waradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn: moeswch ataf fi ŵr, fel yr ymladdom ynghyd. º
1 Samuel 17:36Felly dy was di a laddodd y Hew, a’r arth: a’r Philistiad dienwaededig hwn fydd megis un ohonynt, gan iddo amherchi byddinoedd y Duw byw. º
2 Chronicles 32:17Ac efe a ysgrifennodd lythyrau i gablu ARGLWYDD DDUW Israel, ac i lefaru yn ei erbyn ef, gan ddywedyd, Fel nad achubodd duwiau cenhedloedd y gwledydd eu pobl o’m llaw i, felly nid achub Duw Heseceia ei bobl o’m llaw i.