Ail Lyfr Samuel 18:25
A dywedodd Saul, Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth, ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid, i ddial ar elynion y brenin. Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
24A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd Dafydd. º
Read all of Ail Lyfr Samuel 18
Cross References
Genesis 29:18A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.
Exodus 22:16¶ Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd, a gorwedd gyd â hi; gan gynnysgaeddu cynnysgaedded hi yn wraig iddo ei hun.
1 Samuel 14:24A gwŷr Israel oedd gyfyng amynt y dydd hwnnw: oherwydd tyngedasai Saul y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd hyd yr hwyr, fel y dialwyf ar fy ngelynion. Felly nid archwaethodd yr un o’r bobl ddim bwyd. º
1 Samuel 17:36Felly dy was di a laddodd y Hew, a’r arth: a’r Philistiad dienwaededig hwn fydd megis un ohonynt, gan iddo amherchi byddinoedd y Duw byw. º
1 Samuel 19:1Asaul a ddywedodd wrth Jonathan ei fab, ac wrth ei holl weision, am ladd Dafydd. º