Ail Lyfr Samuel 19:17
A dywedodd Saul wrth Michal, Paham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist fy ngelyn i ddianc? A Michal a ddywedodd wrth Saul, Efe a ddywedodd wrthyf, Gollwng fi; onid e, mi a’th laddaf di. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16A phan ddaeth y cenhadau, wele y ddelw ar y gwely, a chlustog o flew geifr yn obennydd iddi. º
Read all of Ail Lyfr Samuel 19
Cross References
1 Samuel 19:14A phan anfonodd Saul genhadau i ddala Dafydd, hi a ddywedodd, Y mae efe yn glaf. º
1 Samuel 28:12A’r wraig a ganfu Samuel, ac a lefodd â llef uchel: a’r wraig a lefarodd wrth Saul, gan ddywedyd, Paham y twyllaist fi? canys ti yw Saul. º
2 Samuel 17:20A phan ddaeth gweision Absalom at. y wraig i’r tŷ, hwy a ddywedasant. Pa le y mae Ahimaas a Jonathan? A’r wraig a ddywedodd wrthynt, Hwy a aethant dros yr aber ddwfr. A phan geisiasant, ac nas cawsant hwynt, yna y dychwelasant i Jerwsalem. º
Matthew 2:16Yna Herod, pan weles ei siommi gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy-flwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â'r doethion.