Ail Lyfr Samuel 2:20
Ac Eli a fendithiodd Elcana a’i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr ARGLWYDD i ti had o’r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr AR¬GLWYDD. A hwy a aethant i’w mangre eu hun.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 27:27Yna y daeth efe yn nês, ac a’i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd.
Ruth 2:12Yr ARGLWYDD a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd.
1 Samuel 1:11Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r ARGLWYDD holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef.
1 Samuel 1:28Minnau hefyd a’i rhoddais ef i’r ARGLWYDD; yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y rhoddwyd ef i’r ARGLWYDD. Ac efe a addolodd yr ARGLWYDD yno.