Ail Lyfr Samuel 22:23
Aros gyda mi; nac ofna: canys yr hwn sydd yn ceisio fy einioes i, sydd yn ceisio dy einioes dithau: ond gyda mi y byddi di gadwedig.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr Samuel 22
Cross References
1 Samuel 23:17Dywedodd hefyd wrtho ef, Nac ofna: canys llaw Saul fy nhad ni’th gaiff di, a thi a deyrnesi ar Israel, a minnau a fyddaf yn nesaf atat ti: a Saul fy nhad sydd yn gwybod hyn hefyd. º
1 Kings 2:26Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin, Dos i Anathoth, i’th fro dy hun; canys gŵr yn haeddu marwolaeth ydwyt ti: ond ni laddaf di y pryd hwn; oherwydd dwyn ohonot arch yr Arglwydd DDUW o flaen fy nhad Dafydd, ac am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhad.
John 10:28A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i.
John 16:2Hwy a’ch bwriant chwi allan o’r synagogau: ac y mae’r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a’ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw.
John 18:9Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O’r rhai a roddaist i mi, ni chollais i’r un.