Ail Lyfr Samuel 28:7
Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen, ysbryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynnwyf a hi. A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor.; º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr Samuel 28
Cross References
Deuteronomy 18:11Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofyno â’r meirw:
1 Samuel 28:3A Samuel a fuasai farw; a holl Israel a alarasent amdano ef, ac a’i claddasent yn Rama, sef yn ei ddinas ei hun. A Saul a yrasai ymaith y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad. ‘ º
2 Kings 6:33Ac efe eto yn ymddiddan â hwynt, wele y gennad yn dyfod i mewn ato ef: ac efe a ddywedodd, Wele, y drwg hyn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD; paham y disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD mwy?
Isaiah 19:3Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chpnol, a mi a ddiddymaf ei chyngor hi: yna yr ymofynnant ag eilunod, ac a swynyddion; ac a dewiniaid, ac a brudwyr. º
Habakkuk 2:3Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o'r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda.