Ail Lyfr Samuel 30:17
A Dafydd a’u trawodd hwynt o’r cyfnos hyd brynhawn drannoeth: ac ni ddihangodd un ohonynt, oddieithr pedwar cant o wŷr ieuanc, y rhai a farchogasant ar gamelod, ac a ffoesant. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
18A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddygasai yr Amaleciaid: Dafydd hefyd a waredodd ei ddwy wraig. º
Read all of Ail Lyfr Samuel 30
Cross References
1 Samuel 11:11A bu drannoeth i Saul osod y bobl yn dair byddin; a hwy a ddaethant i ganol y gwersyll yn yr wyliadwriaeth fore, ac a laddasant yr Ammoniaid nes gwresogi o’r dydd: a’r gweddillion a wasgarwyd, fel na thrigodd ohonynt ddau ynghyd. º
2 Samuel 1:1Ac ar ôl marwolaeth Saul, pan ddychwelasai Dafydd o ladd yr Amaleciaid, wedi aros o Dafydd ddeuddydd yn Siclag;
2 Kings 7:5A hwy a gyfodasant ar doriad dydd i fyned i wersyll y Syriaid. A phan ddaethant at gwr eithaf gwersyll y Syriaid, wele, nid oedd neb yno.