Ail Lyfr Samuel 4:5
A phan ddaeth arch cyfamod yr ARGLWYDD i’r gwersyll, holl Israel a floeddiasant a bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 6:20¶ A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â’r udgyrn. A phan glybu y bobl lais yr udgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a’r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fynu i’r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a ennillasant y ddinas.
1 Kings 1:40A’r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef, yn canu pibellau, ac yn llawenychu â llawenydd mawr, fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt.
Jeremiah 7:4Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd, Teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD ydynt.
Micah 2:11Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a ddywed yn gelwyddog, Proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd i'r bobl hyn.