Ail Lyfr Samuel 5:10
Am hynny yr anfonasant hwy arch Duw i Ecron. A phan ddaeth arch Duw i Ecron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, Dygasant atom ni o amgylch arch Duw Israel, i’n lladd ni a’n pobl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 15:11A’r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tu a’r gogledd: a’r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baalah, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr.
Judges 1:18Judah hefyd a ennillodd Gazah a’i therfynau, ac Ascalon a’i therfynau, ac Ecron a’i therfynau.
1 Samuel 17:52A gwŷr Israel a Jwda a gyfodasant, ac a fioeddiasant; ac a erlid iasant y Philistiaid, hyd y ffordd y delych i’r dyffryn, a hyd byrth Bcron. A’r Philist¬iaid a syrthiasant yn archolledig ar hyd ffordd Saaraim, sef hyd Gath, a hyd Ecron. º
1 Chronicles 7:21A Sabad ei fab yntau, a Suthela ei fab yntau, ac Eser, ac Elead: a dynion Gath y rhai a anwyd yn y tir, a’u lladdodd hwynt, oherwydd dyfod ohonynt i waered i ddwyn en hanifeiliaid hwynt.
Amos 6:2Tramwywch i Calne, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy na’ch terfyn chwi?