Ail Lyfr Samuel 6:17
A dyma’r ffolennau aur, y rhai a roddodd y Philistiaid yn offrwm dros gamwedd i’r ARGLWYDD; dros Asdod un, dros Gasa un, dros Ascalon un, dros Gath un, dros Ecron un:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16A phum arglwydd y Philistiaid, pan welsant hynny, a ddychwelasant i Ecron y dydd hwnnw.
Cross References
Judges 1:18Judah hefyd a ennillodd Gazah a’i therfynau, ac Ascalon a’i therfynau, ac Ecron a’i therfynau.
Judges 16:1YNA Samson a aeth i Gasa; ac a ganfu yno buteinwraig, ac a aeth i ‘ mewn ati hi. º
1 Samuel 5:1A’r Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a’i dygasant hi o Ebeneser i Asdod.
1 Samuel 5:10Am hynny yr anfonasant hwy arch Duw i Ecron. A phan ddaeth arch Duw i Ecron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, Dygasant atom ni o amgylch arch Duw Israel, i’n lladd ni a’n pobl.
2 Samuel 1:20Nac adroddwch hyn yn Gath; na fynegwch yn heolydd Ascalon: rhag llawenychu merched y Philistiaid, rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig.
2 Kings 1:2Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o’i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o’r clefyd hwn.