Ail Lyfr Samuel 7:6
A hwy a ymgasglasant i Mispa, ac a dynasant ddwfr, ac a’i tywalltasant gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a ddywedasant yno, Pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD. A Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispa.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5A dywedodd Samuel, Cesglwch holl Israel i Mispa, a mi a weddïaf drosoch chwi at yr ARGLWYDD.
Cross References
Leviticus 26:40Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio o honynt yn y gwrthwyneb i mi,
Judges 2:4A phan lefarodd angel yr ARGLWYDD y geiriau hyn wrth holl feibion Israel, yna y bobl a ddyrehafasant eu llef, ac a wylasant.
Judges 10:10A. meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pechasom yn dy erbyn; oherwydd gwrthod ohonom ein Duw, a gwasanaethu Baalim hefyd. º
Judges 20:23(A meibion Israel a aethent i fyny, ac a wylasent gerbron yr ARGLWYDD hyd yr hwyr: ymgyngorasent hefyd a’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, A af fi drachefii i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr ARGLWYDI, DOS i fyny yn ei erbyn ef.) - º
1 Samuel 1:15A Hanna a atebodd, ac a ddywed¬odd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais, eithr tywelltais fy enaid gerbron yr ARGLWYDD.
1 Samuel 12:10A hwy a waeddasantaryr ARGLWYDD, ac a ddywedasant, Pechasom, am i ni wrthod yr ARGLWYDD, a gwasanaethu Baalim ac Astaroth: er hynny gwared ni yr awr hon o law ein gelynion, a nyni a’th wasanaethwn di º