Ail Lyfr Samuel 8:6
A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i’n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr ARGLWYDD. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 32:32Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilea fi, attolwg, allan o’th lyfr a ysgrifenaist.
Numbers 16:22A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysprydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynnulleidfa?
1 Samuel 12:17Onid cynhaeaf gwenith yw heddiw? Galwaf ar yr ARGLWYDD; ac efe a ddyry daranau, a glaw: fel y gwybyddoch ac y gweloch, mai mawr yw eich drygioni chwi yr hwn a wnaethoch yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn gofyn i chwi frenin. º
1 Samuel 12:23A minnau, na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, trwy beidio a gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi. y ffordd dda ac uniawn.: º
Ezra 9:3Pan glywais innau hyn, mi a rwygais fy nillad a’m gwisg, ac a dynnais wallt fy mhen a’m barf, ac a eisteddais yn syn.
Luke 6:11A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu.