Ail Lyfr Samuel 8:7
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasant, rhag i mi deyrnasu arnynt. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 22:20A daeth Duw at Balaam liw nos, a dywedodd wrtho, Os i’th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfod, dos gyd â hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt, hynny a wnei di.
1 Samuel 10:19A chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a’ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr ARGLWYDD wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd. º
1 Samuel 12:12A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, Nage; ond brenin a deyrnasa arnom ni; a’r AR¬GLWYDD eich Duw yn frenin i chwi. º
Psalms 81:11Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon.
Hosea 13:10Dy frenin fyddaf: pa le y mae arall a’th waredo di yn dy holl ddinasoedd? a’th frawdwyr, am y rhai y dywedaist, Dyro i mi frenin a thywysogion?
Matthew 10:40¶ Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i.