Ail Lyfr Samuel 9:16
Ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf atat ti ŵr o wlad Benjamin; a thi a’i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edrychais ar fy mhobl; oherwydd daeth eu gwaedd ataf. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15A’r ARGLWYDD a fynegasai yng nghlust Samuel, ddiwrnod cyn dyfod Saul, gan ddywedyd. º
Cross References
Exodus 2:24A Duw a glybu eu huchenaid hwynt; a Duw a gofiodd ei gyfammod âg Abraham, âg Isaac, ac â Jacob.
1 Samuel 10:1YNA Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr ARGLWYDD a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth? º
1 Samuel 14:23Felly yr achubodd yr ARGLWYDD Israel y dydd hwnnw; a’r ymladd â aeth drosodd i Bethafen. º
1 Samuel 16:3A galw Jesse i’r aberth, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych: a thi a eneini i mi yr hwn a ddywedwyf wrthyt. º
2 Kings 9:3Yna cymer y ffiolaid olew, a thywallt ar ei ben ef, a dywed, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel; yna agor y drws, a ffo, ac nac aros. º
Psalms 106:44Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd.