The Bible Software
bible.software › Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus › Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 6 › Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 6:1

Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 6:1

Cynifer ag sydd wasanaethwyr dan yr iau, tybiant eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd; fel na chabler enw Duw, a’i athrawiaeth ef.

Beibl (1620)

In The King James Version

Let as many servants as are under the yoke count their own masters worthy of all honour, that the name of God and his doctrine be not blasphemed.

In Context

2A’r rhai sydd a meistriaid ganddynt yn credu, na ddiystyrant hwynt, oherwydd eu bod yn frodyr; eithr yn hytrach gwasanaethant hwynt, am eu bod yn credu, ac yn annwyl, yn gyfranogion o’r llesâd. Y pethau hyn dysg a chynghora.

Read all of Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 6

Cross References

Genesis 13:7Cynnen hefyd oedd rhwng bugeilydd anifeiliaid Abram a bugeilydd anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a’r Phereziaid oedd yna yn trigo yn y wlad.

Genesis 24:2A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd:

Genesis 24:27Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a’i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr Arglwydd fi i dŷ brodyr fy meistr.

Deuteronomy 28:48Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisieu pob dim; ac efe a ddyry iau haiarn ar dy wddf, hyd oni ddinystrio efe dydi.

2 Kings 5:2A’r Syriaid a aethent allan yn finteioedd, ac a gaethgludasent o wlad Israel lances fechan; a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman.

Nehemiah 9:5A’r Lefiaid, Jesua, a Chadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia, a Phethaheia, a ddywedasant, Cyfodwch, bendithiwch yr ARGLWYDD eich DUW o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: a bendithier dy enw gogoneddus a dyrchafedig, goruwch pob bendith a moliant.

This Verse In Other Editions

King James VersionBíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)Библия (Русский)新标点和合本성경 (한국어)聖書 (日本語)الكتاب المقدس باللغة العربية، فان دايكBiblia TakatifuBibbia Diodati (Italiano)Kinh Thánh (Tiếng Việt)Biblia Cornilescu (Română)

Study Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 6:1

Matthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word Pictures
Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 6Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 6:2 →