Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 6:9
Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny.
Read all of Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 6
Cross References
Genesis 13:10A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i’r Arglwydd ddifetha Sodom a Gomorrah, fel gardd yr Arglwydd, fel tir yr Aipht, ffordd yr elych i Soar.
Numbers 31:8Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyd â’u lladdedigion eraill: sef Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pùm brenhin Midian: Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â’r cleddyf.
Joshua 7:11Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfammod a orchymynais iddynt: cymmerasant hefyd o’r dïofryd-beth, ïe, lladrattasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ym mysg eu dodrefn eu hun.
1 Kings 21:6Ac efe a ddywedodd wrthi, Oherwydd. i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad, a dywedyd wrtho, Dyro i mi dy winllan er arian: neu, os mynni di, rhoddaf i ti winllan amdani. Ac efe a ddywedodd, Ni roddaf i ti fy ngwinllan. º
Psalms 11:6Dywedodd yn ei galon, Ni’m symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
Proverbs 15:27Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw.