2 Chronicles 1:11
A dywedodd Duw wrth Solomon, Oherwydd bod hyn yn dy feddwl di, ac na ofynnaist na chyfoeth, na golud, na gogoniant, nac einioes dy elynion, ac na ofynnaist lawer o ddyddiau chwaith; eithr gofyn ohonot i ti ddoethineb, a gwybodaeth, fel y bernit fy mhobl y’th osodais yn frenin arnynt:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 3:11A Duw a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn:
1 Kings 8:18A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu t i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon: º
1 Chronicles 28:2A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed, ac a ddywedodd, Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr, a’m pobl; Myfi a feddyliais yn fy nghalon adeiladu tŷ gorffwysfa i arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac i ystol draed ein Duw ni, a mi a baratoais tuag at adeiladu. º
Proverbs 8:15Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder.
Proverbs 23:7Canys fel y meddylia yn ei galon, felly efe a ddywed wrthyt, Bwyta ac yf; a’i galon heb fod gyda thi.
Hebrews 4:12Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, a’r cymalau a’r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau’r galon.