2 Chronicles 1:2
A Solomon a ddywedodd wrth holl Israel, wrth dywysogion y miloedd a’r cannoedd, ac wrth y barnwyr, ac wrth bob llywodraethwr yn holl Israel, sef y pennau-cenedl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 3:4A’r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno: canys honno oedd uchelfa fawr. Mil o boethoffrymau a offrymodd Solo¬mon ar yr allor honno.
1 Chronicles 15:3A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch yr ARGLWYDD i’w lle a baratoesai efe iddi hi. º
1 Chronicles 24:4A chafwyd mwy o feibion Eleazar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleazar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ol tŷ eu tadau, wyth. º
1 Chronicles 27:1PEDAIR mil ar hugain oedd pob dos-barthiad o feibion Israel dan eu rhif, yn bennau-cenedl, ac yn dywysogion miloedd a channoedd, a’u swyddogion yn gwasanaethu y brenin ym mhob achos o’r dosbarthiadau, yn dyfod i mewn, ac yn myned allan, o fis i fis, trwy holl fisoedd y flwyddyn. º
1 Chronicles 29:1YNA y dywedodd Dafydd y brenhin wrth yr holl dyrfa, Duw a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a’r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae y llys, ond i’r ARGLWYDD DDUW. º
2 Chronicles 30:2A’r brenin a ymgynghorodd, a’i dywysogion, a’r holl gynulleidfa, yn Jerwsalem, am gynnal y Pasg yn yr ail fis.