2 Chronicles 12:13
Felly y brenin Rehoboam a ymgryfhaodd yn Jerwsalem, ac a deyrnasodd: a mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr ARGLWYDD i osod ei enw ef ynddi, o holl lwythau Israel: ac enw ei fam oedd Naama, Ammones.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg, canys ni pharatodd efe ei galon i geisio yr ARGLWYDD.
Cross References
Deuteronomy 12:5Ond y lle a ddewiso yr Arglwydd eich Duw o’ch holl lwythau chwi, i osod ei enw yno, ei drigfa ef a geisiwch, ac yno y deuwch:
Deuteronomy 23:3Na ddeled Ammoniad na Moabiad i gynnulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth hefyd o honynt na ddeued i gynnulleidfa yr Arglwydd byth:
1 Kings 11:36Ac i’w fab ef y rhoddaf un llwyth, xxx fel y byddo goleuni i’m gwas Dafydd yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw yno. º
2 Chronicles 6:5Er y dydd y dygais i fy mhobl allan o wlad yr Aifft, ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, i fod fy enw ynddo; ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel:
2 Chronicles 13:7Ac ofer ddynion, sef meibion y fall, a ymgasglasant ato ef, ac a ymgadarnhasant yn erbyn Rehoboam mab Solomon, pan oedd Rehoboam yn fachgen, ac yn wan ei galon, ac ni allai ymgadarnhau i’w herbyn hwynt.
Nehemiah 13:26Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon brenin Israel? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd lawer, yr hwn oedd hoff gan ei DDUW, a DUW a’i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel, eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu.