2 Chronicles 20:12
O ein Duw ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i’n herbyn; ac ni wyddom ni beth a wnawn: ond arnat ti y mae ein llygaid.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr ARGLWYDD, a’u rhai bach, eu gwragedd, a’u plant.
Cross References
Deuteronomy 32:36Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a edifarhâ am ei weision; pan welo ymadaw o’ u nerth, ac nad oes na gwarchaëedig, na gweddilledig.
1 Samuel 3:13Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith, ac nas gwaharddodd efe iddynt.
2 Samuel 14:11Yna hi a ddywedodd, Cofied, atolwg, y brenin dy Arglwydd Dduw, rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio, a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i. Ac efe a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni syrth un o wallt pen dy fab di i lawr.
2 Kings 6:15A phan gododd gweinidog gŵr Duw yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A’i was a ddywedodd wrtho ef. Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn?
Psalms 7:8Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd; canys yr ARGLWYDD a glywodd lef fy wylofain.