2 Chronicles 22:7
A dinistr Ahaseia oedd oddi wrth DDUW, wrth ddyfod at Joram: canys pan ddaeth, efe a aeth gyda Jehoram yn erbyn Jehu mab Nimsi, yr hwn a eneiniasai yr ARGLWYDD i dorri ymaith dyˆ Ahab.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 32:35I mi y perthyn dïal, a thalu y pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynt: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a barottôwyd iddynt.
Judges 14:4Ond ni wyddai ei dad ef na’i faiq mai oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd hyn, mai ceisio achos yr oedd efe yo erbyn y Philistiaid: canys y Philistiaid oedd y pryd hwnnw yn arglwyddiaethu ar Israel. º
1 Kings 12:24Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel; dych¬welwch bob un i’w dŷ ei hun: canys trwof fi y mae y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar air yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant i fyned ymaith, yn ôl gair yr AR¬GLWYDD. º
1 Kings 22:20A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Pwy a dwylla Ahab, fel yr elo efe i fyny ac y syrthio yn RamothGilead? Ac un a ddywedodd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd fel hyn. º
2 Kings 9:21A Joram a ddywedodd, Rhwym ff cerbyd. Yntau a rwymodd ei gerbyd ef. A Joram brenin Israel a aeth allan, ac Ahaseia brenin Jwda, pob un yn ei gerbyd, a hwy a aethant yn erbyn Jena, a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad. º
2 Chronicles 10:15Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl: oherwydd yr achos oedd oddi wrth DDUW, fel y cwblhai yr ARGLWYDD ei air a lefarasai efe trwy law Ahïa y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.