2 Chronicles 24:20
Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Fel hyn y dywedodd Duw, Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr ARGLWYDD? diau na ffynnwch chwi; canys gwrthodasoch yr ARGLWYDD, am hynny yntau a’ch gwrthyd chwithau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 29:25Yna y dywedir, Am wrthod o honynt gyfammod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a ammododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aipht.
1 Samuel 13:13A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ynfyd y gwnaethost: ni chedwaist orchymyn yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a orchmynnodd efe i ti: canys yr ARGLWYDD yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd., º
1 Chronicles 12:18A’r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywed¬odd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y.byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i’th gynorthwywyr; oherwydd dy DDUW sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a’u croesawodd hwynt, ac a’u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin. º
2 Chronicles 12:5Yna Semaia y proffwyd a ddaeth at Rehoboam a thywysogion Jwda, y rhai oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem rhag ofn Sisac, ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Chwi a’m gwrthodasoch i, am hynny myfi a’ch gadewais chwi yn llaw Sisac.
2 Chronicles 20:14Yna ar Jahasiel mab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mataneia, Lefiad o feibion Asaff, y daeth ysbryd yr ARGLWYDD yng nghanol y gynulleidfa.
2 Chronicles 25:16A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef, y brenin a ddywedodd wrtho yntau, A wnaed tydi yn gynghorwr i’r brenin? paid, i ba beth y’th drewid? A’r proffwyd a beidiodd, ac a ddywedodd. Mi a wn fod Duw wedi arfaethu dy ddinistrio di, am i ti wneuthur hyn, ac na wrandewaist ar fy nghyngor i.