2 Chronicles 29:27
A Heseceia a ddywedodd am offrymu poethoffrwm ar yr allor: a’r amser y dechreuodd y poethoffrwm, y dechreuodd cân yr ARGLWYDD, â’r utgyrn, ac ag offer Dafydd brenin Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
26A’r Lefiaid a safasant ag offer Da¬fydd, a’r offeiriaid â’r utgyrn.
Cross References
2 Chronicles 7:3A phan welodd holl feibion Israel y tân yn disgyn, a gogoniant yr ARGLWYDD ar y tŷ, hwy a ymgrymasant â’u hwynebau i lawr ar y palmant, ac a addolasant, ac a glodforasant yr ARGLWYDD, canys daionus yw efe, oherwydd bod ei drugaredd ef yn dragywydd.
2 Chronicles 20:21Ac efe a ymgynghorodd a’r bobl, ac a osododd gantorion i’r ARGLWYDD, a rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd, pan aent allan o flaen y rhyfelwyr; ac i ddywedyd, Clodforwch yr ARGLWYDD, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
2 Chronicles 30:21A meibion Israel, y rhai a gafwyd yn Jerwsalem, a gynaliasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod trwy lawenydd mawr: y Lefiaid hefyd a’r offeiriaid oedd yn moliannu yr ARGLWYDD o ddydd i ddydd, gan ganu ag offer soniarus i’r ARGLWYDD.
Psalms 137:3Clodforwch ARGLWYDD yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.