2 Chronicles 29:35
Y poethoffrymau hefyd oedd yn aml, gyda braster yr hedd-offrwm, a’r ddiod-offrwm i’r poethoffrymau. Felly y trefnwyd gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 35:14A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe âg ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddïod-offrwm, ac a dywalltodd olew arni.
Leviticus 3:15A’r ddwy aren, a’r gwer a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dỳn efe ymaith.
Leviticus 3:17Deddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau yn eich holl anneddau, yw: na fwyttaoch ddim gwer, na dim gwaed.
Numbers 15:5Ac offrwm di gyd â’r offrwm poeth, neu yr aberth, bedwaredd ran hin o win am bob oen, yn ddïod-offrwm.
Ezra 6:18Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu diosbarthiadau, a’r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth DUW yn Jerwsalem, yn ôl ysgrifen llyfr Moses.