2 Chronicles 31:21
Ac ym mhob gwaith a ddechreuodd.efe yng ngweinidogaeth tŷ DDUW, ac yn y gyfraith, ac yn y gorchymyn i geisio ei DDUW, efe a’i gwnaeth a’i holl galon, ac a ffynnodd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 10:12¶ Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid,
Joshua 1:7Yn unig ymgryfhâ, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ol yr holl gyfraith a orchymynodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddehau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych.
2 Kings 18:7A’r ARGLWYDD fa gydag ef; i ba te bynnag yr aeth, efe a lwyddodd: ae-efe wrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria, ac nis gwasanaethodd ef. º
1 Chronicles 22:19Yn awr rhoddwch eich calon a’ch.enaid i geisio yr ARGLWYDD eich Duw; lyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr ARGLWYDD DDUW, i ddwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, a sanctaidd lestri Duw, i’r tŷ a adeiledir i enw yr AR¬GLWYDD.
2 Chronicles 14:7Am hynny efe a ddywedodd wrth Jwda, Adeiladwn y dinasoedd hyn, ac amgylchwn hwynt â mur, â thyrau, â drysau, ac â barrau, tra fyddo y wlad o’n blaen ni; oherwydd i ni geisio yr AR¬GLWYDD ein Duw, ni a’i ceisiasom, ac efe a roddodd lonyddwch i ni o amgylch. Felly hwy a adeiladasant, ac a lwyddasant.
2 Chronicles 26:5Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Sechareia, yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau Duw: a’r dyddiau y ceisiodd efe yr ARGLWYDD, Duw a’i llwyddodd ef.