2 Chronicles 32:21
A’r ARGLWYDD a anfonodd angel, yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol, a phob blaenor a thywysog yng ngwersyll brenin Asyria. Felly efe a ddychwelodd â chywilydd ar ei wyneb i’w wlad ei hun. A phan ddaeth efe i dŷ ei dduw, y rhai a ddaethant allan o’i ymysgaroedd ei hun a’i lladdasant ef yno â’r cleddyf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
20Am hynny y gweddïodd Heseceia y brenin, ac Eseia y proffwyd mab Amos, ac a waeddasant i’r nefoedd.
Cross References
2 Kings 19:20Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Gwrandewais ar yr hyn a weddïaist arnaf fi yn erbyn Senacherib brenin Assyria. º
Job 9:4Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth; pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?
Psalms 76:5Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth.
Psalms 76:7Ond DUW sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.
Proverbs 16:18Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp.