2 Chronicles 32:33
A Heseceia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn yr uchaf o feddau meibion Dafydd. A holl Jwda a thrigolion Jerwsalem a wnaethant anrhydedd iddo ef wrth ei farwolaeth. A Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 20:29A’r holl gynnulleidfa a welsant farw Aaron, a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron ddeng niwrnod ar hugain.
1 Samuel 2:30Am hynny medd ARGLWYDD DDUW Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr ARGLWYDD, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a’m dirmygwyr a ddirmygir.
1 Kings 1:21Os amgen, pan orweddo fy ar¬glwydd frenin gyda’i dadau, yna y cyfrifir fi a’m mab Solomon yn bechoduriaid.
1 Kings 11:43A Solomon a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
2 Chronicles 33:1Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem:
Proverbs 10:7Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig: ond enw y drygionus a bydra.