2 Chronicles 33:9
Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr ARGLWYDD o flaen meibion Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Er llefaru o’r ARGLWYDD wrth Manasse, ac wrth ei bobl, eto ni wrandawsant hwy.
Cross References
Deuteronomy 2:21Pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid, a’r Arglwydd a’u difethodd hwynt o’u blaen hwy; a hwy a ddaethant ar eu hol hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt.
1 Kings 14:16Ac efe a ddyry heibio Israel, er mwyn pechodau Jeroboam, yr hwn a bechodd, a’r hwn a wnaeth i Israel bechu. º
2 Kings 17:8A rhodio yn neddfau y cenhedloedd, y rhai a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel, ac yn y deddfau a wnaethai brenhinoedd Israel. º
2 Kings 21:16Manasse hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion, hyd oni lanwodd efe Jerwsalem o ben bwygilydd; heblaw ei bechod trwy yr hwn y gwnaeth efe i Jwda bechu, gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. º
2 Kings 24:3Yn ddiau trwy orchymyn yr ARGLWYDD y bu hyn yn erbyn Jwda, i’w bwrw allan o’i olwg ef, o achos pechodad Manasse, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe; º
2 Chronicles 33:2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.