2 Chronicles 36:15
Am hynny ARGLWYDD DDUW eu tadau a anfonodd atynt hwy trwy law ei genhadau, gan foregodi, ac anfon: am ei fod ef yn tosturio wrth ei bobl, ac wrth ei breswylfod.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Judges 10:16A hwy a fwriasant ymaith y duw-iaa dieithr o’u mysg, ac a wasanaethasant yr ARGLWYDD: a’i enaid ef a dosturiodd, oherwydd adfyd Israel. º
2 Kings 17:13Er i’r ARGLWYDD dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, trwy law yr holl broffwydi, a phob gweledydd, gan ddywedyd, Dychwelwch o’ch ffyrdd drygionus, a chedwch fy ngorchmynion, a’m deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i’ch tadau, a’r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi. º
1 Chronicles 3:16A meibion Joacim; Jechoneia ei fab ef, Sedeceia ei fab yntau.
2 Chronicles 24:19Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi, i’w troi hwynt at yr AR GLWYDD; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt, ond ni wrandawsant hwy.
Jeremiah 7:13Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr ARGLWYDD, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch:
Jeremiah 25:3Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda, hyd y dydd hwn, hortao yw y drydedd flwyddyn ar hugain, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, ac mi a ddywedais wrthych, gan foregodi a llefaru, ond ni wrandawsoch. º