2 Chronicles 36:21
I gyflawni gair yr ARGLWYDD trwy enau Jeremeia, nes mwynhau o’r wlad ei Sabothau; canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd, y gorffwysodd hi, i gyflawni deng mlynedd a thrigain.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:34Yna y mwynhâ y tir ei Sabbathau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffaethwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion; yna y gorphwys y tir, ac y mwynhâ ei Sabbathau.
Jeremiah 25:9Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr AR¬GLWYDD, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol. º
Jeremiah 26:6Yna y gwnaf y t hwn fel Seilo, a’r ddinas hon a wnaf yn felltith i holl genhedloedd y ddaear. º
Jeremiah 29:10Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pan gyflawner yn Babilon ddeng mlynedd a thrigain, yr ymwelaf a chwi, ac a gyflawnaf a chwi fy ngair. daionus, trwy eich dwyn chwi drachefn i’r lle hwn. º
Zechariah 1:4Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y proffwydi o'r blaen arnynt, an ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr ARGLWYDD.
Zechariah 7:14Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent; a'r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a'i tramwyai nac a ddychwelai: felly y gosodasant y wlad ddymunol yn ddiffeithwch.