2 Chronicles 6:23
Yna gwrando di o’r nefoedd; gwna hefyd, a barna dy weision; gan dalu i’r drygionus, trwy roddi ei ffordd ef ar ei ben ei hun; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo yntau yn ôl ei gyfiawnder.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 5:27Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gwr, yr â y dwfr sydd yn peri y felldith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwyd: a’r wraig a fydd yn felldith ym mysg ei phobl.
2 Kings 9:26Diau, meddai yr ARGLWYDD, gwaed Naboth, a gwaed ei feibion, a welais i neithiwr, a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon, medd yr ARGLWYDD. Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon, yn ôl gair yr ARGLWYDD. º
Proverbs 1:31Am hynny hwy a gant fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain.
Isaiah 3:10Dywedwch mai da fydd i’r cyfiawn: canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhânt.
Jeremiah 51:56Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, a’i chedym hi a ddaliwyd; eu bwa a dorrwyd: canys ARGLWYDD DDUW y gwobr a obrwya yn sicr. º
Romans 2:9Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyn¬taf, a’r Groegwr hefyd: