2 Chronicles 7:10
Ac yn y trydydd dydd ar hugain o’r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i’w pabellau, yn hyfryd ac yn llawen eu calon, am y daioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd, ac i Solomon, ac i Israel ei pobl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 18:1Jethro yn ymadael. Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aipht;
Deuteronomy 12:12A llawenhêwch ger bron yr Arglwydd eich Duw; chwi, a’ch meibion, a’ch merched, a’ch gweision, a’ch morwynion, a’r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi: canys nid oes iddo ran nac etifeddiaeth gyd â chwi.
Deuteronomy 16:11A llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a’r dïeithr, a’r amddifad, a’r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo.
1 Kings 8:66A’r wythfed dydd y gollyngodd efe ‘ymaith y bobl: a hwy a fendithiasant y brenin, ac a aethant i’w pebyll yn hyfryd ac a chalon lawen, am yr holl ddaioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd ei was, ac i Israel ei bobl.
2 Chronicles 29:36A Heseceia a lawenychodd, a’r holl bobl, oherwydd paratoi o DDUW y bobl: oblegid yn ddisymwth y bu y peth.
Nehemiah 8:10Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i’r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn sanctaidd i’n Harglwydd: am hynny na thristewch; canys llawenydd yr ARGLWYDD yw eich nerth chwi.