2 Corinthians 1:12
Canys ein gorfoledd ni yw hyn, set’ tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn symlrwydd, a phurdeb duwiol, nid mewn doethineb cnawdol, ond trwy ras Duw, yr ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tuag atoch chwi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 24:14¶ Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aipht; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd.
Job 13:15Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef.
Job 27:5Na ato DUW i mi eich cyfiawnhau chwi: oni threngwyf, ni symudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthyf.
Psalms 7:3A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, ARGLWYDD, pa hyd?
Isaiah 38:3A dywedodd, Atolwg, ARGLWYDD, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd ac a chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr. º
Acts 24:16Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddi-rwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol.