2 Corinthians 1:7
Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch; gan i ni wybod, mai megis yr ydych yn gyfranogion o’r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o’r diddanwch.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Luke 22:28A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau.
1 Corinthians 10:13Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.
2 Corinthians 7:9Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristau chwi, ond am eich tristau i edifeirwch: canys tristau a wnaethocb yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni.
Philippians 1:6Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist:
2 Thessalonians 1:4Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a'ch ffydd yn eich holl erlidiau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef:
James 1:2Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau,