2 Corinthians 10:5
Gan fwrw dychmygion i lawr, a phob uchder a’r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4(Canys arfau ein milwriaeth ni hid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Ddirtv i fwrw cestyll i’r llawr;)
6Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd-dod, pan gyflawner eich ufudd-dod chwi.
Cross References
Exodus 5:2A dywedodd Pharaoh, Pwy yw yr Arglwydd, fel y gwrandâwn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith? Yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf.
Deuteronomy 15:9Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw y seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod; a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain o hono ef ar yr Arglwydd rhagot, a’i fod yn bechod i ti.
2 Kings 19:28Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau i; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost. º
Job 42:6Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.
Psalms 110:2Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: A thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn.